Home | Main Menu | Castle Index | Historical Essays | Related Essays | What's New | Links
Owain Glyndwr
Uchod: Sêl Owain Glyndwr
Gwyn A. Williams 1985; Wales: The Rough Guide, 1994
(Dymuna Cestyll Cymru ddiolch i Sian Beidas am gyfieithu'r dudalen hon i'r Gymraeg)i chrybwyllir yr un enw yng Nhymru cyn amled ag enw Owain Glyndwr (1349-1416), arweinydd dylanwadol cenedlaetholdeb Cymreig ers iddo wrthryfela yn erbyn y Saeson goresgynnol ym mlynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif. Ychydig a wyddys am y dyn y dywedodd Shakespeare amdano yn Henri IV, Rhan 1 'nid yw megis dynion cyffredin'. Yn ddiamau fe wireddodd Owain lawer o broffwydoliaethau cyfriniol y Canol Oesoedd am wrthryfel y ddraig goch. Roedd o dras pendefigaidd ac fe'i magwyd yn ddigon confensiynol, yn rhannol yn Lloegr o bob man. Ychwanegodd ei waed glas at ei hawliad i fod yn Dywysog Cymru, gan ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i dywysogion Powys a Chyfeiliog. O ganlyniad i'w statws fe ddysgodd Saesneg, astudiodd yn Llundain a daeth yn filwr disglair a theyrngar i frenin Lloegr cyn dychwelyd i Gymru a phriodi.
Roedd Glyndwr yn aelod o linach gogledd Powys ac, ar ochr ei fam, yn ddisgynnydd i linach y Deheubarth. Roedd y teulu wedi brwydro dros Llywelyn ap Gruffydd yn y rhyfel diwethaf ac wedi ad-ennill ei diroedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru drwy gysylltiad cynlluniedig ag arglwyddi pwerus y Gororau yn Y Waun, Bromfield a Iâl a gyda theulu llai pwysig y Lestrange. Yn y modd yma fe'u gwreiddiwyd yn nosbarth swyddogol y Mers ac fe'u rhestrwyd ymhlith ei uchelwyr llai pwysig.
Roedd Glyndwr yn byw yn gysurus. Roedd yn arglwydd Glyn Dyfrdwy a Chynllaith Owain yn ymyl Afon Dyfrdwy ar sail perthynas uniongyrchol â'r brenin drwy'r Barwniaid Cymreig. Roedd ganddo incwm o ryw £200 y flwyddyn a phlasty ffosedig hardd yn Sycharth gyda theiliau a simneiau, parc ceirw, libart, pwll pysgod a melin. Roedd yn un o bendefigion y Gororau i'r carn ac roedd wedi treulio'o dymor yn Ysbytai'r Frawdlys. Mae'n rhaid ei fod yn hyddysg yn y gyfraith; fe briododd ferch Sir David Hanmer, twrnai disglair a oedd wedi gwasanaethu Edward III a Richard II. Roedd wedi gwasanaethu yn rhyfeloedd a gosgorddion Henri o Gaerhirfryn ac Iarll Arundel, ac wedi disgleirio yn ymgyrch yr Alban ym 1385.
Ond roedd yn fwy nag un o wyr y Gororau. Roedd yn gynrychiolydd hen dai brenhinol Cymru, yn etifedd i Gadwaladr, a hynny mewn gwlad a oedd yn frith o weddillion llinachau tebyg. Gwlad gythryblus oedd Cymru diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd llofruddiaeth front Llywelyn ein Llyw Olaf a pholisïau llym Edward I i ddarostwng Cymru wedi creu cenedl anniddig a phenisel, lle 'roedd unrhyw arwyddion o wrthryfel yn siwr o ddwyn cefnogaeth. Ym 1399-1400 daeth Glyndwr i wrthdrawiad â'i gymydog pwerus, Reginald de Grey, Arglwydd Rhuthun, cydnabod agos i'r brenin newydd Henri IV. Roedd y ddadl yn ymwneud â thir comin yr oedd Grey wedi ei ddwyn. Ni châi Glyndwr gyfiawnder gan y brenin na'r senedd. Fe oresgynwyd y dyn balch hwn, dros ei ddeugain oed, a'i wallt wedi britho, gan sarhad a dig. Mae yna arwyddion fod Glyndwr wedi ymdrechu i gysylltu â Chymry anniddig eraill, a phan gododd ei faner ar gyrion Rhuthun ar 16 Medi 1400, fe'i cyhoeddwyd yn Dywysog Cymru o'r cychwyn gan ei ddilynwyr.
Roedd yr ymateb yn syfrdanol ac mae'n bosib fod Glyndwr ei hun wedi ei ddychryn. Gyda chefnogaeth yr Hanmers, merswyr Normanaidd-Gymreig eraill a Deon Llanelwy, ymosododd ar Ruthun gyda rhai cannoedd o ddynion ac aeth ymlaen i ysbeilio pob tref yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Cafwyd ymateb ar unwaith o Rydychen, lle y gollyngodd ysgolheigion Cymraeg eu llyfrau a heidio adref. Yn fwy trawiadol fyth oedd y newyddion fod gweithwyr Cymraeg yn Lloegr yn rhoi'r offer ar y bar ac yn ei throi hi tua thre'. Rhuthrodd y Senedd Saesneg i gynnwys deddfwriaeth wrth-Gymreig ar y llyfr statud. Arweiniodd Henri IV fyddin fawr ar draws gogledd Cymru, yn llosgi ac yn ysbeilio'n ddidrugaredd. Rhuthrodd pobloedd cyfan i wneud heddwch. Dros y gaeaf, gyda dim ond saith o ddynion, fe giliodd Glyndwr i'r bryniau.
Ond yn ystod Gwanwyn 1401, fel yr oedd y Tuduriaid yn hawlio Castell Conwy trwy dwyll, fe symudodd byddin fechan Glyndwr i'r canolbarth a'r de. Unwaith eto cafwyd gwrthryfel gwerinol o'u cwmpas ac fe heidiodd cannoedd i ymuno â'r chwyldro. Yn ystod 1401 daeth Glyndwr yn ymwybodol o rym cynyddol y chwyldro wrth i ddynion o reng uchel ymuno â'r achos. Yn ei lythyrau i dde Cymru fe'i cyhoeddodd ei hun yn waredwr a anfonwyd gan Dduw i wared y Cymry rhag eu gorchfygwyr. Anfonodd brenin Lloegr, Henri IV, filwyr a lluniodd gyfres o ddeddfau llym yn erbyn y Cymry, yn anghyfreithloni hyd yn oed feirdd a chantorion Cymraeg. Parhaodd y brwydro ffyrnig, gyda Glyndwr yn dal Edmund Mortimer, Iarll Merswy, ym Milleth ym mis Mehefin 1402. Erbyn diwedd 1403 roedd Glyndwr yn rheoli'r rhan fwyaf o Gymru.
I'r Saeson, mater o ryddhau eu cestyll unig oedd y rhyfel deuddeng mlynedd a ddilynodd. Enciliodd ymgyrch ar ôl ymgyrch yn ddielw. Anfonodd Henri IV, dan warchae gan Gymry, Albanwyr, Ffrancwyr a baronwyr gwrthryfelgar, byddin ar ôl byddin, rhai ohonynt yn anferth, y cwbl yn ofer. Ni ddaeth i'r afael yn iawn â'r sefyllfa ac i raddau helaeth fe ballodd y chwyldro, mewn gwlad fechan a flastiwyd, a losgwyd ac a flinwyd yn ddi-drugaredd. I'r Cymry, roedd yn wrthryfel merswyol a chwyldro gwerinol a dyfodd i fod yn rhyfel gerila cenedlaethol. Mae dycnwch y chwyldro yn drawiadol. Ychydig chwyldroadau yn Ewrop gyfoes a barhâi fwy nag ychydig fisoedd; nid oedd yr un rhyfel Cymreig wedi parhau llawer yn hirach. Fe rygnodd hwn yn ei flaen yn gynddeiriog am ddeng mlynedd ac ni ddaeth i ben yn llwyr am bron i bymtheg.
Ym Machynlleth ym 1404 fe gynulliodd Glyndwr senedd o bedwar dyn o bob cwmwd yn Nhgymru, gan greu cydgytundebau o gydnabyddiaeth gyda Ffrainc a Sbaen. Ym Machynlleth hefyd, fe'i coronwyd yn frenin y Gymru Rydd. Cafwyd ail senedd yn Harlech flwyddyn yn ddiweddarach, gyda Glyndwr yn cynllunio i rannu Lloegr a Chymru yn dair, fel rhan o glymblaid yn erbyn brenin Lloegr: byddai Mortimer yn cymryd de a gorllewin Lloegr, byddai Thomas Percy, Iarll Northumberland, yn cymryd y canoldir a'r gogledd, a Glyndwr ei hun yn cymryd Cymru a'r Gororau. Fodd bynnag, fe ganolbwyntiodd y fyddin Saesneg gyda grym cynyddol ar ddinistrio'r gwrthryfel Cymraeg, ac ni wireddwyd y Cynllun Tridarn.
Daeth trychineb ym 1408 pan syrthiodd cestyll Aberystwyth a Harlech i luoedd y brenin ac fe garcharwyd teulu Glyndwr ei hun. Unwaith eto bu i'r genedl Gymreig, a oedd wedi bodoli am bedair blynedd, gilio i'r coed, ei thywysog yn herwr drachefn. Drwy gydol 1409 roedd Owain, ynghyd â'i fab Meredudd, llond dwrn o'i gapteiniaid gorau a rhai Albanwyr a Ffrancwyr, yn rhydd, yn difrodi ble bynnag yr aeth. Ni wyr neb beth a ddigwyddodd i Glyndwr, ond, fel Arthur, ni allai farw; fe godai eto. Ar ddau achlysur fe gynigiodd Henri V, y brenin newydd, bardwn i'r arweinydd gwrthryfelgar, ond ymddengys fod yr hen ddyn yn rhy falch i'w dderbyn.
Yr hyn sy'n fwy trawiadaol na'r rhyfel cartref a ddilynodd y chwyldro, yw'r serch, y teyrngarwch a'r weledigaeth a ddaeth i'w gynnal. Rhoddodd wyr Glyndwr derfyn ar daliadau i'r arglwyddi a'r goron; roeddent yn gallu codi digon o arian i fynd yn eu blaenau o'r seneddau Cymreig a gynulliwyd, ac a fynychwyd gan gynrychiolwyr o bob rhan o Gymru - y seneddau cyntaf a'r olaf yn hanes Cymru. O blith miloedd o bobol gyffredin ac mewn cyfnodau a oedd yn aml yn anhraethol o arw daeth teyrngarwch a ganiatai i'r hen wr arwain cenedl ranedig, un rhan o 12 maint y genedl Seisnig yn erbyn dau frenin a dwsin o fyddinoedd. Roedd Owain Glyndwr yn dywysog Cymraeg nas bradwyd gan ei bobol ei hun, nid hyd yn oed yn y cyfnodau tywyllaf pan allai llawer iawn ohonynt fod wedi achub eu cam eu hunain drwy wneud hynny. Nid oes dim byd tebyg yn hanes y Cymry.
Fe barhaodd y deddfau gwrth-Gymreig llym ar y llyfr statud hyd esgyniad y Cymro Harri VII i'r orsedd ym 1485. Daeth Cymru'n rhan o ddeddf gwlad Lloegr a daeth chwyldro Glyndwr i fod yn symbol mwyfwy grymus o annibyniaeth rhwystredig y Cymry. Hyd yn oed heddiw, Meibion Glyndwr yw'r enw a fabwysiadwyd gan y mudiad llechwraidd a ymddangosodd yn fuan yn y 1980au i losgi tai haf Saeson ac asiantaethau tai Seisnig sy'n delio mewn eiddo Cymreig.
Ers 1410 mae'r rhan fwyaf o'r Cymry y rhan fwyaf o'r amser wedi rhoi heibio unrhyw syniad o annibyniaeth. Ond, ers 1410 mae'r rhan fwyaf o'r Cymry, pe na bai ond yng nghilfachau cyfrin y meddwl, wedi bod allan ryywdro neu'i gilydd gydag Owain a'i ddilynwyr troednoeth. Fe blagir meddyliau'r Cymry o hyd gan ei weledigaeth o genedl rydd.
"Gochelwch rhag Gymru, Crist Iesu a'n cadwo
Fel na ddaw â dagrau i blant ein plant
Nac i ninnau chwaith, onis digwydd drwy ddiofalwch,
Gan fod dyn, ers llawer dydd
Yn ofni gwrthryfel yno"
Ymwelwch â Sycharth, cartref teulu Owain Glyndwr
Cymdeithas Owain Glyndwr
Thursday, 15 September 2011
Owain Glyndwr
via castlewales.com