Friday 8 October 2010

Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2010

Check out this website I found at ntawales.com

Mae'r gwobrau yn gyfle i ddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig, a dangos beth sy'n bosibl drwy waith caled, dyfeisgarwch ac ymrwymiad. O westai moethus i leoliadau gwely a brecwast, roedd yr un nodweddion yn gyffredin ganddynt - ansawdd gwych, croeso cynnes ac agwedd broffesiynol iawn wrth ofalu am westeion.

Mae Croeso Cymru, mewn partneriaeth â Chynghrair Twristiaeth Cymru, ac mewn partneriaeth fasnachol â'r cwmni cyfathrebu corfforaethol, Quadrant, yn cynnal y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol i gydnabod gwerth y diwydiant twristiaeth i Gymru. Mae’n gyfle hefyd i longyfarch y rheini sydd, am 12 mis o'r flwyddyn, yn cynnig croeso cynnes i Gymru, ar eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb.

Bydd gwobrau eleni yn cael eu cynnal yng Ngwesty Hamdden Golff a Sba y Vale ger Caerdydd ddydd Iau 21 Hydref. Sarra Elgan, y gyflwynwraig teledu, a fydd yn cynnal y noson, a bydd yn noson i'w chofio. Yn dilyn y Noson Wobrwyo, ar 22 Hydref, bydd cynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru yn cael ei chynnal - cliciwch yma i gofrestru'ch diddordeb ac i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ceisiadau bellach wedi mynd heibio. Serch hynny, gallwch archebu eich tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo drwy glicio ar y botwm Prynu Tocynnau uchod. Edrychwn ymlaen at eich croesawu wrth i ni wobrwyo goreuon Cymru ym maes twristiaeth!

Posted via email from projectbrainsaver